Home

Cemetery

Incumbents

Dewi Sant Church Nebo

   
  Churchyard survey        

References to Llansantffraed extracted from

 Cyfaill Eglwysig
dan olygiaeth Y Parch David Jones, Ficer Penmaenmawr
argraffwyd gan W Spurrel a'i fab

Deoniaeth Glyn Aeron

Chwefror 1902
 
Bedydd - Tachwedd 18, John Alexander, mab David William a Jane Anne Evans, Alumina House, Llanon.
Claddedigaethau - Rhagfyr 14, claddwyd David Jordan Jones yn y fynwent hon, yr hwn a fu farw yn West Ham Infirmary, Llundain, oddi wrth enyniad yr ysgyfaint, yn 35 oed.  Brodor o Lanon ydoedd, a brawd i Mrs Rowlands, Pantanamlwg, Cadben T A Jones R M S Union Castle, a Dr Jones, Llansamlet.  Yr oedd ei dad yn un o'r rhai hyny fu yn foddion i ddyrchafu Llanon i'w sefyllfa lwyddiannus mewn morwriaeth. Fferyllydd oedd yr ymadawedig yn Llundain, a gadawodd weddw a dau o blant bychain ar ei ol.  Y Nef fyddo yn dyner wrthynt.

Rhagfyr 17 John Alexander Evans, Alumina House, yn 3 mis oed.

Dydd Gwener Rhagfyr 20, ar ol byr gystudd, bu farw y brawd hynaws a ffyddlawn, Cadben Jones, Vigilant House, yn 69 oed. Gadawodd weddw ac un ferch, yr hon sydd briod â'r Parch D W Davies, curad Llandewi Aberarth.  Cydymdeimlir yn fawr â'r teulu yn eu galar. Claddwyd ei weddillion marwol ym mynwent Llansantffread, dydd Mawrth Rhagfyr 24.  Yr oedd yn gladdedigaeth hynod o luosog, gan fod llawer iawn yn bresennol o blwyf Llandewi Aberarth a thref Aberaeron.  Gwasanaethwyd gan y Parchedigion Ganon Evans, ficer Llandewi Aberarth, a Dr D Lewis, ficer y plwyf.  Nos Sul Rhagfyr 29 traddodwyd y begeth angladdol gan ficer Llansantffread, ar y geiriau a welir yn Phil.i.23.  Talodd y ficer warogaeth neillduol i ffyddlondeb y brawd ymadawedig mewn cyssondeb ym moddion gras ar y Sul ac yn yr wythnos.  Yr oedd bob amser yn ei le, ac yn hyn yr oedd yn esiampl neillduol i'r oes sydd yn codi.  Huned y brawd ffyddlawn mewn hedd hyd ganiad yr udgorn.
Y Nadolig - Plygain am 5 yn yr Ysgoldy.  Gwasanaeth a phregeth am 10 yn yr Eglwys.  Datganiad o'r gantawd gyssegredig ar Hanes Moses am 6 yn yr Ysgoldy.  Atebid yr holiadau gan wahanol ddosbarthiadau yr Ysgol Sul, y rhai, yng nghyd â'r côr, a wnaethant eu gwaith yn hynod o ganmoladwy.  Dadganwyd yr unawdau gan Mri D Davies, D A Jones, Misses Thomas, Richards ac Evans.  Arweinydd Mr D Davies, cyfeilyddes Miss Morgan.  Rhoddwyd pregeth fer gan y ficer ar ol gantawd ar brophwydoliaeth Moses am Grist, Deut. xviii.15, Hon oedd y ddegfed gantawd a gafwyd yma ar hwyr y Nadolig.
Y Calan - Cynnaliwyd y cyngherdd flynyddol nos Calan yn yr Ysgoldy.  Er fod yr hin yn anffafriol iawn, yr oedd y lle yn orlawn.  Y cadeirydd oedd Dr Davies, Aberaeron, a gwnaeth ei ran yn fedrus.  Canwyd darnau tarawiadol gan gôr y meibion a chôr merched ar wahân, ac hefyd yn undebol, o dan arweiniad meistrolgar Mr D Davies.  Ni chaniat
â gofod i ni roddi enwau yr holl ddadganwyr.  Cyfeiliwyd ar y berdoneg gan Miss James, Ontario, a Miss Jones, Roseland.  Yr oedd y gerddoriaeth bron oll o nodwedd bur ac uwchraddol.

Mawrth 1902 
B
edydd - Chwefror 15, Lewis Ivor, mab Lewis Daniel a Margaret Jones, Talybont, Llanon.
Yr Ysgol Sul - Yr arolygwyr am y flwyddyn hon yw Cadben Daniel Richards, Pantteg, Mr Evan Davies, Tanyrallt, a Mr David Davies, 1 Bridge Street;  ysgrifenydd, Mr John Lewis Jones, Carlton House.  Ennillwyd y wobr flaenaf am bresennoldeb difwlch bob Sul o'r flwyddyn ddiweddaf gan y personau canlynol: - William Williams (hynafgwr 84 oed), John Davies, Willie Davies, D J Evans, a Lewis Jones.  Ennillodd 19 yr ail wobr, y rhai na fuont yn absennol fwy na dau Sul o'r flwyddyn, sef M E Jones, J S Evans, D J Davies, A J Jones, J H Jones, L A Davies, D J Jones, T Clarke, J Davies, Rosie Jones, D A C Evans, M A Evans, Alina Jones, J H Jones, J D Davies, Daniel Richards, D J Davies, H L Evans ac Ellen Jones.  Y nifer oll yn 24.
Darlithiau - Traddodwyd tair darlith yn Ysgoldy yr Eglwys yn ystod y gauaf hwn.  Y gyntaf nos Fawrth Rhag 10 gan y Parch T M Williams, ficer Llanarth, ar'Waith Cenadol yr Eglwys yn Affrica Ddeheuol'. Eglurwyd y ddarlith hon gan 50 o ddarluniau ar yr hudlusern.  Yr ail, nos Fercher Ionawr 15, gan y Parch J M Griffiths ficer Henfynyw, ar 'Yr Elwys ac Addysg'.  Y drydedd, nos Fawrth Chwefror 4, gan y Parch D W Davies, Llandewi. ar 'Yr Esgob Morgan a'r Beibl Cymraeg.'  Rhoddodd y tri darlithydd lwyr foddlonrwydd i bawb a'u clywsant.
Marwolaeth - Drwg iawn genym gofnodi marwolaeth Margaret Davies, Belle Vue, yr hyn a gymmerodd le ar ol cystudd maith a phoenus, nos Fawrth Chwefror 11 yn 68 oed.  Un o ffyddloniaid gorau Eglwys Llansantffread ydoedd o'i mebyd, ac un o gymmeriadau mwyaf pur a didwyll yr ardal.  Nid oedd iddi elyn yn y byd.  Mynychai bob cyfarfod crefyddol ar y Sul ac ar nosweithiau yr wythnos, hyd nes i'w iechyd ammharu ryw dair blynedd yn ol.  Yr oedd hefyd yn aelod cysson o'r Ysgol Sul.  Yr oedd y dorf luosog a ymgynnullodd i'w chladdedigaeth y dydd Sadwrn canlynol yn brawf amlwg o'i pharch yn y gymmydogaeth.  Bydded i'r Nef fod yn amddiffyn i'w phriod yn ei alar a'i unigrwydd ar ei hol.

Ionawr 1903
Bedydd
- Tachwedd 23 Mary Annie Virginia, merch George Henry Richard a Margaret Jane Stroud, 10 Oxford Street, Maindee, Newport, Mon.
Claddedigaeth - Tachwedd 28 Mary Elizabeth Jones, Aeron Villa, Llanon yn 18 oed.  Dyma Eglwys Llansantffread yn galaru ar ol un o'i blodau mwyaf addawol, aelod ffyddlawn o'r côr canu, ac hefyd o'r Ysgol Sul.

Mai 1903
Dydd Gwener y Croglith
cafwyd gwasanaeth a phregeth yn yr Eglwys am ddeg y boreu, ac yn yr hwyr am hanner awr wedi chwech daeth yr Ysgol Sul yng nghyd yn yr ysgoldy i ymdrin â'r pwnc ar gyfer Llun y Pasc.  Wedi myned trwy y gwasanaeth aethpwyd at y gwaith, y ficer, y Parch D Lewis, yn holi yr ysgol.  Y pwnc eleni oedd yr ail bennod ar bymtheg o St Ioan.  Yna canodd y plant eu hanthem, 'Boed moliant i'r Iesu', gwaith H Davies, Pencerdd Maelor, ac ar ol hyny daeth y côr canu at eu hanthem, sef 'Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel,' J Thomas, Blaenanerch.
Dydd y Pasc - Gwasanaeth yn yr Eglwys am ddeg, ac yna gweinyddiad o'r Cymmun Sanctaid;  ac er fod llawer o'r aelodau yn absennol, o blegid afiechyd, eto daeth y nifer luosog o 167 ym mlaen i angeu'r Groes ar ddydd y Pasc.
Dydd Sul Ebrill 19 gweinyddwyd y sacrament o Fedydd, a derbyniwyd Elizabeth Lorna, merch John Daniel ac Anne Elizabeth Jenkins, Kensington House, Llanon.
Festri Pasc - Cynnaliwyd hon yn yr ysgoldy nos Wener Ebrill 17 pryd y penodwyd yr hen swyddogion, sef Cadben Richards, Mr E Morgan a Mr Francis Evans yn eu swyddau fel o'r blaen. Hefyd penodwyd dau sidesmen newydd, Cadben J B Davies a Mr Evan Davies, Waunfawr.  Darllenodd Cadben Richards gyfrifon yr Eglwys am y flwyddyn, a chlywsom y newydd da ganddo, wedi talu yr holl ofyniadau, dros dair punt mewn llaw.

Mehefin 1903
Casglwyd yma at y Gymdeithas Genadol Eglwysig o fewn y flwyddyn sydd yn terfynu Mawrth 31, fel y canlyn:-

  £ s d
Mrs Morgan, The Green 2 0 0
Miss Morgan 2 0 0
Mr Morgan 1 0 0
Thank-Offering 1 0 0
Parch D Lewis 0 10 0
Mrs Williams, Glyn 0 10 0
E Rowland Esq, Mount 0 10 0
Capt Jenkins, Morwylfa 0 10 0
Mrs James, Ontario 0 2 6
Miss Jones, Rose Mount 0 2 6
Mrs Jones, Roseland 0 2 6
Miss Morgan, Ael-y-bryb 0 2 6
  8 10 0
Blychau-      
Mrs Davies, Levant 0 4 0
Miss Sinnett-Jones, Carlton 0 4 0
D Rees Evans Esq, Conway 0 2 7
  0 10 7
Blwch yr Ysgol Sul 1 16 7½
Casgliad yn yr Eglwys 4 9 4½
  15 6 7
Treuliau 0 5 0

Cyfanswm       

15 1 7

Conffirmasiwn - Dydd Llun Mai 18, bu yr esgob yma yn gweinyddu y ddefod o arddodiad dwylaw ar yr ymgeiswyr canlynol o'r plwyf hwn: Elizabeth Anne Rowlands, Catherine Evans, Margaret Anne Morris, Catherine Anne Jenkins, Mary Rosina Magdalen Jones, Jane Sinnett Thomas, Dorothy Anne Catherine Evans, Margaret Anne Davies, Jane Elizabeth Davies, Margery Letitia Frances Thomas, Martha Jane Anne Rowlands, Margaret Anne Edwards, Margaret Mary Thomas, Lewis James Jones, Daniel Sinnett Richards, John David Edwards, Thomas Clarke, Lewis Albert Davies, William Hughes, Sinnett Thomas, David James Davies, John Harries Jones, Evan Morgan, William Evan Jenkins ac Edward Williams.  Heb law yr uchod yr oedd 6 o ymgeiswyr wedi dyfod o blwyfi Cilcennin a Llanbadarn Trefeglwys, 4 o blwyf Llandewi Aberarth, a 2 o blwyf Llangwyryfon, yr oll yn gwneyd y cyfanswm o 38.  Traddododd yr esgob ddau anerchiad difrifol, pa rai ni a obeithiwn a fendithir i'r ymgeiswyr ac i bawb a'u clywsant.  Yr oedd cynnulleidfa fawr wedi dyfod yng nghyd.  Cynnorthwyid yr esgob yn y gwasanaeth gan y Parchn D Lewis a'r Canon Evans.  Yr oedd yn bresennol heb law yr uchod y Parchn D Jenkins, Llangwyryfon; D W Davies, Cilcennin; a D Jones, Llandewi Aberarth.  Yr oedd y canu yn hwyliog dros ben.  Chwareuwyd yr offeryn gan Miss Lewis, y Ficerdy.

Hydref 1903
Rhestr y rhai a aethant trwy arholiad y sol-ffa yn llwyddiannus.
Intermediate - Dorothy Anne Catherine Evans, Swan; Lewis Albert Davies, Rose Hill
Elementary - Mary Anne Richards, Portland; Catherine Jane Evans, Swan; Dorothy Anne Alma Thomas, Belmont; Dorothy Anne Adelaide Davies, Rose Hill; Margaret Elizabeth Gwladys Thomas, Belmont; Magdalen Jane Theodora Jones, Roseland; Jane Elizabeth Davies, Dugoed; Jane Sinnett Thomas, Belmont; David James Davies, Ty'ncefn; Daniel James Sinnett Richards, Pantteg; Henry Lloyd Evans, Swan; Ellen Clarke, Whitehall.
Junior - Sarah Helena Evans, Swan; Lissie Anne Rowlands, Penbanc; Eleanor Eunice Jenkins, Kensington; Alice Kate Rowlands, Penbanc; David Lewis Jones Thomas, Belmont; John Walter Peter Jenkin Jenkins, Engrateia;  William Owen Adams, Hope;  David Lambert Jenkins, Kensington.
Marwolaethau
Blin genym gofnodi marwolaeth Miss Jones, Strata a gymmerodd le dydd Iau Medi 10 yn 70oed.  Bu yn aelod ffyddlawn yn Eglwys Llansantffread, ac yn athrawes selog yn yr Ysgol Sul am flynyddau.  Yr oedd yn Eglwyswraig drwyadl, a choleddai y parch dyfnaf i wasanaethau yr Eglwys.  Yr oedd iddi air da gan bawn trwy yr holl gymmydogaeth, ac fe deimlir colled ddirfawr ar ei hol yn yr Eglwys a'r Ysgol Sul. Yr oedd yn chwaer i'r Parch D Jones, Caerdydd, a nai iddi ydyw y Parch Edwin Jones, St Mair, Bangor.  Y dydd Sadwrn canlynol clawddwyd ei gweddillion marwol ym mynwent y plwyf, pryd y daeth llawer yng nghyd i dalu'r gymmwynas olaf iddi.
Prudd genym hefyd ydyw hysbysu marwolaeth Miss Kate Williams, merch ieuengaf Mr a Mrs Williams, Glyn, a gymmerodd le dydd Sadwrn Medi 12 yn 20oed.  Yr oedd hon eto yn aelod ffyddlawn yn Eglwys Llansantffread ac yn yr Ysgol Sul, ac yn un a gerid ac a berchid yn fawr gan bawb a'i hadwaenai.  Rhoddwyd ei gweddillion i orphwys y dydd Gwener canlynol ym mynwent Llansantffread, pryd y daeth tyrfaoedd lluosog o berthynasau a chyfeillion o bell ac agos yng nghyd.
 

Tachwedd 1903

Cynnaliwyd gwasanaethau o ddiolchgarwch am y cynauaf yn Eglwys y plwyf uchod dydd Mercher Medi 30.  Am 10 yn y boreu llafarganwyd y gwasanaeth gan y Parch D Lewis, a phregethwyd gan y Parch A H Grey-Edwards ar y Genadaeth Dramor.  Am 2 yn y prydnawn llafarganwyd y Litani gan y ficer, a phregethwyd gan y Parch J E Lloyd, Aberystwyth.  Am 6 yn yr hwyr llafarganwyd y gwasanaeth gan y ficer, a phregethwyd gan y Parch J E Lloyd ac A H Grey-Edwards.  Gwnaed casgliadau tuag at y C.M.S.

Ionawr 1904

Ar y Sul diweddaf yn y Drindod cawsom gyfrifon yr Ysgol Sul am y flwyddyn - yn gyntaf nifer y rhai oedd yn bresennol bob Sul yn ystod y flwyddyn, sef 5 - Miss Jones, dosbarth 3; Tom Clarke, dos 4; Ellen Clarke dos 7; J D Davies, dos 15; Eunice Jenkins, dos 20.  Eto y rhai ni chollasant fwy na dau Sul, sef 8 - John Jones, dos 1;D J Evans, dos 1; J R Clarke, dos 1; D J Davies, dos 5; M H Clarke, dos 7; Rosie Jones, dos 7; Lizzie Griffiths, dos 19; Lambert Jenkins, dos 21.
Dewiswyd swyddogion newydd.  Y tri arolygwr ydynt y Parch D Lewis, ficer; Cadben Jenkins, Morwylfa; Mr David Davies, Bridge Street; ac yn ysgrifenydd Mr John Horace Jones ac y maent wedi dechreu ar eu gwaith yn egniol, ac y mae ffrwyth eu llafur i'w ganfod eisoes, sef presennoldeb aelodau o'r Ysgol Sul, y rhai oeddynt wedi bod yn absennol er ys talwm o amser, ac yr ydym yn gobeithio y gwnaiff ein swyddogion newydd barhau yn eu gwaith heb laesu dwylaw, ond dal yn gadarn hyd ddiwedd blwyddyn.

Chwefror 1904

Nos Fawrth Rhagfyr 15 yn ysgoldy yr Eglwys traddodwyd darlith gan y Parch Griffith Thomas ar yr 'Eglwys ac Addysg.'  Cymmerwyd y gadair gan Cadben Richards, Pantteg, ac er fod yr hin yn oer, eto daeth nifer dda yng nghyd, a chawsant ddarlith hynod ddyddorol.  Hefyd, tra byddai Mr Thomas yn siarad am addysg yn y gwahanol oesoedd, dangosai yr hud-lusern ddarlun pwrpasol ar y llen, sef hen Eglwysi Cymru a Lloegr, Cadeiriol a phlwyfol, yng nglŷn â pha rai oedd ysgolion i ddysgu y plant.  Gwelsom ugeiniau o ddarluniau da iawn â hanes rhyfedd yn perthyn iddynt - hen Eglwysi, ysgolion, cof-golofnau a phersonau hynod am eu llafur er llwyddiant addysg o'r hen oesoedd cyn y bummed ganrif o.c. hyd yr amser pressenol.  Gwelsom hefyd ddarluniau o hen ysgrifau mewn hen Ladin, gwaith llaw ardderchog a fyddai yn esampl i lawer ysgolor gwych yn awr;  hefyd y wasg gyntaf, ac ystadegau o nifer y plant yn y gwahanol ysgolion, gwirfoddol a byrddau, yn dangos y ffaith ryfedd fod cymmaint dair gwaith o blant yn derbyn eu haddysg yn yr Ysgolion Gwirfoddol ag sydd yn Ysgolion y Bwrdd (Board Schools). Terfynwyd y cyfarfod trwy gasglu ychydig at dreuliau y darlithydd hyawdl, ac yna canwyd yr Anthem Genedlaethol, y geiriau i'w canfod ar y llen yn eglur iawn, Mr D Davies yn canu yr unawd.
Y Nadolig - Plygain am bump o'r gloch y boreu, a daeth cynnulleidfa dda yng nghyd, mwy na welwyd er ys blynyddoedd.  Gwasanaeth a phregeth yn yr Eglwys am ddeg, ac yn yr hwyr am chwech gwasanaeth yn yr ysgoldy, sef cantata gyssegredig, 'Iachawdwr y plant:' aeth y côr trwy eu gwaith yn gymmeradwy.  Canwyd yr amrywiol unawdau, deuawdau, a triawdau yn swynol dros ben, a daeth yno un cyfaill o bell i ganu solo, sef Lieut T A Jones, HMS Dido, yr hwn a ganodd 'Star of Bethlehem' er mawr bleser i'w wrandawyr.  Canlynwyd y cantata â phregeth gan ein ficer, yr hwn a wnaeth ychydig sylwadau pwrpasol i'r Nadolig, ac yna terfynwyd y cyfarfod trwy ganu emyn gynnulleidfaol.
Y Calan - Nos Calan cafwyd cyngherdd yn yr ysgoldy.  Cymmerwyd y gadair gan Mr W Timothy Jones, yn cael ei gynnorthwyo gan Mr Alban Jones.  Er nad oedd y rhaglen yn faith, eto yr oedd yn dangos chwaeth rhagorol.  Canwyd unawdau gan Miss Thomas; Mr Morris Jones, Tregynau; Mr D Jones Davies;  canodd y côr meched yn swynol, a chymmeryd y rhaglen gyda'i gilydd.  Yr oedd y safon yn uchel iawn.  Yr ail ran yn gynnwysedig o operetta (dyma beth newydd yn y lle hwn), 'The Nodding Mandarin.'  Yr oedd yr olygfa arni yn dda, sef y dillad Chineaidd a wisgid gan y bechgyn a'r merched, yng nghyd â'r amgylchoedd, llusernau Chineaidd, &c.  Yr oedd y plant wedi dysgu yn hynod mewn ychydig amser i ganu, i gerdded, ac i ddawnsio.  Nid ychydig o waith yw dysgu cerdded fel John Chinaman, heb son am ei glocs coed mawrion.  Y mae clod yn ddyledus i'r boneddigesau ieuainc a fu mor llafurus yn dysgu y plant, sef Miss Morgan, The Green; Miss Jones, Cadifor; Miss Lewis, The Vicarage; Miss James, Marion Villa; Miss Sinnett-Jones, Carlton House; a Miss Jones, Ontario.
Boren Sul ar ol y Nadolig, bedyddiwyd Annie Gwendolen, merch David Thomas a Jane Margaretta Morgan, Regent House, Llanon.

Mai 1904

Dydd Iau Ebrill 7 claddwyd ym mynwent Llansantffread un o hen aelodau mwyaf ffyddlawn yr Eglwys, sef Mrs Evans, diweddar o'r Post Office, Llanon.  Yr oedd Mrs Evans yn hynod am ei ffyddlondeb, yn mynychu pob cyfarfod yn yr wythnos yn gystal a'r Sabbath, ac yr oedd ei lle i'w weled yn hynod o wag pan y methodd trwy afiechyd.  Cyrhaeddodd yr oedran teg o bedwar ugain a thair, ac er fod ei hiechyd a'i hamgylchiadau wedi cyfnewid llawer ni achwynai ar ddim ond ei bod yn methu myned allan i'r Eglwys.  Yr oedd wedi colli ei phriod a'i mab henaf, yr hwn oedd yn offeiriad, er ys blynyddoedd lawer, a chydymdeimla pawb â'i hunig fab sydd wedi ei adael yn amddifad i alaru ar ei hol.

Tachwedd 1904

Bedyddiadau -
Medi 21 Mary Jane Evans, Felin-fach, ger Llanon.
Medi 23 Elizabeth Mary Jones, Gwalia House, Llanon

Dydd Mawrth y bedwaredd o Hydref cynnaliwyd cyfarfodydd o ddiolchgarwch arbenig am fendithion y cynauaf yn yr Eglwys hon. Am ddeg yn y borau llafarganwyd y gwasanaeth gan y Parch J D Jones, curad Llandewi-aberarth, a phregethwyd gan y Parch W Williams, Llangeler.  Llafarganwyd y gwasanaeth yn y prydnawn gan y Parch D Sinnett-Davies, curad Llanllwchaiarn (yr hwn a wasanaethodd hefyd yn yr hwyr), A phregethwyd gan y Parch T James, Llanerfyl.  Yn yr hwyr pregethwyd i gynnulleidfa luosog gan y ddau offeiriad, sef y Parch T James a W Williams.  Yr oedd y gwasanaethau yn fywiog trwy y dydd, a'r pregethau yn nerthol, ac ol llafur i'w deimlo ynddynt; a gobeithio drwy fendith yr Arglwydd na fu y llafur hwnw yn ofer arnom ni y gwrandawyr.

Ionawr 1905

Nos Wener Hydref 21 traddododd y Parch D Worthington, rheithor Llangeitho, ddarlith yn Ysgoldy yr Eglwys;  Ei destun oedd 'Rowlands Llangeitho,' cymmerwyd y gadair gan ein ficer, a chafwyd darlith ardderchog iawn.
Yr Ysgol Sabbathol -  Dydd Sul yr Adfent, cymmerodd y swyddogion newydd eu lle.  Yn arolygwyr am y flwyddyn ddyfodol;- Capt Richards; Capt Sinnett Jones; a John Davies, Belle Vue, a Sinnett Richards fel ysgrifenydd.  Ennillwyd gwobrwyon am ddysgu yr Ysgrythyr mewn trefn gan ddechreu gyda llyfr y Diarebion, yn flaenaf Ellen Jones, Carpentaria, yr hon a adroddodd dros bum mil o adnodau.  Yn ail, Rosetta Jones, Cadifor, dros dair mil; yn drydedd, A Jane Jones, Carpentaria; ac yn bedwaredd Marian Richards, Morwylfa.
Bedydd - Rhagfyr yn ail, Anne Margaretta, merch John Daniel ac Anne Elizabeth Jenkins, Kensington House, Llanon.

Mawrth 1905

Dydd Sadwrn Ionawr 28 cludwyd gweddillion marwol Mrs Margaret Evans, Bristol House, i'w claddu ym mynwent Llanbadarn Trefeglwys.  Daeth tyrfa luosog iawn yng nghyd i'w hebrwng, a gwasanaethwyd gan y Parchedigion D Lewis, Llansantffread, a D W Davies, Llanbadarn.  Yr oedd Margaret Evans wedi cyrhaedd yr oedran o 73 mlwydd ac yn un o'r cymmeriadau hyny y sonir am danynt gan y Salmydd, 'heb absennu â'i dafod a wnel gyfiawnder ac a ddywed wir yn ei galon.'
Dydd Mercher y dydd cyntaf o Chwefror, rhoddwyd Mrs Sarah Elizabeth James, Arfon House, i orphwys ym mynwent Llansantffread yn 71 mlwydd oed.  bu y chwaer hon am flynyddoedd maith yn aelod ffyddlawn o'r Eglwys ac o'r Ysgol Sul, a hefyd mynychai y cyfarfodydd wythnosol, ond yr oedd wedi ei chaethiwo gan afiechyd er ys tro, ac yn unig, yn weddw, a'i hunig blentyn yn dilyn ei alwedigaeth ym mhell ar y môr: eto nid yn unig yw yr hwn a ofno yr Arglwydd, canys 'Angel yr Arglwydd a gastella o'i amgylch ac a'i gwared.'
Wele eto y trydydd o hen aelodau ffyddlawn Eglwyd Llansantffread wedi ymadael â'r fuchedd hon o fewn ychydig ddyddiau i'w gilydd sef y ddwy chwaer a gofnodwyd eisoes a Mr David Jones, Boot House, yr hwn a gladdwyd yn y fynwent hon dydd Mercher Chwefror 8 yn 72 mlwydd oed.  Yr oedd David Jones bob amser yn ei le yn yr Eglwys foreu a hwyr, tra parodd ei iechyd, a hyny dan anfantais fawr, gan nad oedd yn clywed yn dda, eto ni byddai yn eisieu hyd nes i'r 'daiarol dŷ' ddechreu ymddattod.  Dyoddefai ei gystudd yn dawel iawn, gan edrych ym mlaen at yr amser pryd na bydd 'poen mwyach.'

Hydref 1905

Bedyddiadau -
 Gorphenaf 23 Thomas Morgan, mab Morgan a Mary Evans, Glanperis. Llanon
Awst 25 Annie Maria, merch Stephen ac Elizabeth Lewis, 49 Morton Terrace, Clydach Vale, Sir Forganwg
Medi 13 David Jenkins, mab John a Hannah Mary Henry, Egretia, Llanon
Medi 17 William Owens, mab Richard a Margaret Evans, Tynant Farm, Llansantffread
Priodas
- Gorphenaf 26 (trwy drwydded), Capt David Jones Jenkins, 3 Cadogan Place, Aberayron, â Miss Anne Caroline Morgan (merch ieuangaf y diweddar Barch Evan Morgan, ficer Ystrad, Glyn Aeron), gan y Parch R L Morgan, brawd y briodasferch, yn caol ei gynnorthwyo gan y Parch D Lewis, ficer Llansantffread.
Claddedigaeth - Mehefin 27 Mary Jane George, Derwent Cottage, Llanon, yn chwe mis oed.

'Derbyniwyd gynt gan Fab y Dyn
Blant bach i'w freichiau Ef ei Hun,
Ac na waherddwch hwynt medd Ef,
Can's eiddynt hwy yw Teyrnas Nef.'

Gorphenaf 22 Capt David Owen, Hope, Llanon yn 64 mlwydd oed. Dyma eto un o hen drigolion Llanon wedi ymadael â'r fuchedd hon.  Chwith iawn genym ar ol Capt Owens, yr oedd yn gymdeithasgar iawn, a chanddo lawer o gyfeillion.  Dioddefodd gystudd trwm, gan ei fod wedi ei daro gan y palsy er ys tro.  Soniai lawer am ei ddiwedd, ond cafodd ei symmud yn dra sydyn o fyd o amser i'r byd tragwyddol.  'Am hyny, byddwch chwithan barod, canys yn yr awr ni thybioch y daw Mab y Dyn.'

Awst 19 Daeth tyrfa fawr yng i dalu y gymmwynas olaf i Evan Davies, Tanyrallt, ger Llanon. Cyrhaeddodd yr oedran 71 mlwydd, a gadawodd weddw i alaru ar ei ol.  Yr oedd Evan Davies yn aelod ffyddlawn o'r Eglwys, ac yn athraw yn yr Ysgol Sul.  Yr oedd yn ddyn o gymmeriad da, ac a hoffid yn fawr gan bawb oedd yn ei adwaen. Meddiannai ar ysbryd hynod o addfwyn, ac yr oedd bob amser yn edrych yn hapus. 'Gwyn ei byd y rhai addfwyn.'  Canys felly dylai 'plant y golenni' fod yn wastadol.  A gwir Dduw y tangnefedd a'ch sancteiddio yn gwbl oll, a chadwer eich ysbryd oll, a'ch enaid, a'ch corff yn ddiargyhoedd yn nyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist.

Ionawr 1906

Bedydd - Tach 4 Thomas Richard, mab Thomas David a Jane Maria Edwards, Pantwhilog.
Claddedigaeth - Dydd Gwener y cyntaf o Ragfyr rhoddwyd i orphwys weddillion yr hen frawd Morgan Davies, Penmorfa, gynt o Cwmbach. Yr oedd wedi cyrhaedd oedran teg, sef pedwar ugain mlynedd a daeth cynnulliad mawr iawn yng nghyd i dalu y gymmwynas olaf iddo ym mynwent Llansantffread.  Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y ficer, yr hwn hefyd a draddododd y bregeth angladdol nos Sul canlynol.
Nos Wener Tachwedd 24 yn y cyfarfod cymmumwyr, cyflwynwyd tysteb i Mr William Williams, Tymawr.  Y mae William Williams wedi bod yn aelod hynod weithgar o'r Eglwys yma er ys trigain mlynedd, er pan y daeth i fyw i'r plwyf.  Yr oedd yn bresennol yn brydlawn ym mhob cyfarfod, yn athraw ffyddlawn o'r Yagol Sul, o'r hon y mae wedi bod yn arolygwr drosodd a throsodd.  Er ys rhyw ychydig wythnosan yn ol, penderfynodd yr Eglwys yn unfrydol wneyd tysteb iddo, ac allan aeth y chwiorydd a'r brodyr parchus yma a dychwelasant â swm iawn, sef £15 6s., yr hwn a roddwyd i'r hen frawd 89 oed gan Miss Morgan.  Siaradwyd ar yr achlysur gan y ficer, Capt Richards, Capt Morgan a Capt S Jones, y rhai oll a ddywedent am rinweddau da William Williams, yr hwn hefyd a ddiolchodd yn gynhes i'r Eglwys am ei hewyllys da tuag ato.

Cynnaliwyd cyngherdd y plant yn Ysgoldy yr Eglwys, nos Iau Tachwedd 2.  Cymmerwyd y gadair gan y ficer, ac aethpwyd trwy raglen chwaethus.  Gwnaeth y plant eu rhanyn dda, ac mae y boneddigesau a'r boneddigion a fuont mor egniol a'u dysgu yn haeddu clod.

Dydd Sul Rgagfyr 3 casglwyd £5 1s 6c i'r SPCK, a chymmerodd yr arolygwyr newydd eu swydd yn yr Ysgol Sul, sef y Parch D Lewis, Mr John Davies, Cambrian Stores; Capt Morgan, Cadwgan; a John Harris Jones, yn ysgrifenydd am y flwyddyn nesfa.

Chwefror 1906

Cynnaliwyd gwasanaethau Gwyl y Nadolig yma, gan ddechreu gyda chyfarfod gweddi yn Ysgoldy yr Eglwys, sef y plygain am bump o'r gloch yn y boreu, pryd y daeth nifer mawr yng nghyd, a chawsom gyfarfod gwresog iawn.
Gwasanaeth a phregeth yn yr Eglwys am ddeg y boreu, ac am chwech yn yr hwyr yn yr Ysgoldy - gwasanaeth o gân, sef y cantata, 'Darluniau o fywyd yr Iesu,' ac yna pregethwyd i dyrfa fawr gan y Parch T Lloyd, Llanarth.  Addurnwyd yr Eglwys yn ddestlus iawn gan y boneddigesau canlynol:- Miss Morgan, Miss Lewis, Miss Sinnett-Jones, Miss Jones, Cadivor; Miss James, Manoravon; Mrs James, Cadwgan; Miss Evans, Convoy; Miss Richards, Marion Villa; Miss Davies, Levant; Miss Williams.

Nos Calan cynnaliodd y côr canu ei gyngherdd blynyddol. Y rhan gyntaf yn cynnwys Glees, Solos, etc gan wahanol aelodau o'r côr dan lywyddiaeth eu harweinydd, Mr David Davies.  Yr ail ran - operetta gan y plant.  Y maent yn ormod o nifer i'w henwi, gan fod y rhan fwyaf o blant yr Eglwys yn y gwaith, ond gwnaeth pob un ei ran yn ardderchog, a chawsom gyngherdd llwyddiannus iawn y tro hwn eto. Yr rydym yn teimlo yn ddiolchgar i'r Parch E Evans, ficer Aberaeron, am lywyddu y cyngherdd mor fedrus.  Er fod yr Ysgoldy yn orlawn, rhoddwyd gwrandawiad astud o'r dechreu i'r diwedd.  Y mae y boneddigesau canlynol yn haeddu canmoliaeth am eu llafurus gariad gyda'r plant, sef Miss Morgan, Misses Williams, Miss A Lewis, Miss James, Miss Sinnett-Jones, Miss Thomas, Miss Alina Jones.

Mai 1906

Y Gymdeithas Genadol Eglwysig - Casgliad y Gwasanaethau Diolchgarwch £5 0s 9d

Tanysgrifiadau

£

s

d

Mr E Davies, Trialmawr  

10

0
Capt a Mrs Jenkins, Morwylfa   10 0
Miss Jones, Rose Mount   10 6
Capt D A Jones   10 6
Parch D Lewis, ficer   10 0
Mrs Morgan, The Green 5 0 0
Mr E Morgan, The Green 1 1 0
Miss Morgan, The Green 4 0 0
Offrwm Diolch 1 0 0
Mrs Williams, Y Glyn   10 0
Mr T Evans, Trial House   5 0
Mrs Jenkins, Millet Park   2 6
Parch D Jones, Strata House   5 0
Mr E Rowland, Mount Pleasant 1 1 0
Mrs Jones, Cadifor   2 6
Mrs Jones, Roseland   2 6
Miss Morgan, Aelybryn   2 6
Capt D Richards, Pantteg   2 0
Mrs Sinnett-Jones, Carlton House   2 6
Mrs Griffiths, Lawrenny   1 0
Mrs James, Cadwgan   1 0
Mrs Jones, Sunny Mount   1 0
Capt Morgan, Cadwgan   1 0

           Blychau:

     
Mrs Evans, Convoy   2 6
Mrs Jones, Barbara   2 0
Mrs Jones, Gwynfa   2 6
Blychau yr Ysgol Sul 8 3 10
Anadnabyddus 1 0 0
  31 3 1
Treuliau   5 0
  30 18 1


Bedydd -  Mawrth 18 David Morgan, mab David a Margaret Davies, Penbanc, Llansantffread.
 

Ymadawiad y Parch J T Lewis, diweddar gurad Pwllheli, a mab y Parch D Lewis, ficer Llansantffread. Mae wedi cael ei benodi yn Reithor Gainsborough a Carievale gan Esgob Qu Appelle, yng ngorllewin Canada.  Canlyna y Parch F E Pratt, DG, yn y fywoliaeth.  Bydd ef, ei briod, a'i faban yn hwylio yn yr agerlong 'Southwark,' perthynol i gwmni y Dominion Line, ar y 26fed o Ebrill.  Addysgwyd Mr Lewis yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr, ac ar ol pasio ei holl arholiadau yn anrhydeddus yno, ordeiniwyd ef i guradiaeth Pwllheli.  Treuliodd amryw flynyddoedd yno mewn llwyddiant a pharch mawr.  Mae yn bregethwr rhagorol yn y ddwy iaith, yn ddyn ieuanc talentog, ym mhell uwch law y cyffredin.  Yr hyn fydd yn golled i'r Eglwys yng Nghymru fydd yn ennill i'r Eglwys ym myd y Gorllewin pell.  Dymunwn iddynt fordaith lwyddiannus, a hir oes i wneyd daioni.

Awst 1906

Nos Sul y 15fed o Orphenaf, traddododd ein ficer, y Parch D Lewis, bregeth goffadwriaethol am Elizabeth Margaret, merch fechan David a Margaret Davies, Penbanc, Llansantffread, yr hon a fu farw dydd Iau 5med o Orphenaf, yn bum mlwydd oed.

' Ni ddaeth y teg flodeuyn hyn,
A ga'dd mor syn ei symmud,
Ond prin i ddangos pa mor hardd
Yw blodau gardd y bywyd.'

Da genym weled yr Eglwys yn edrych mor hardd wedi ei glanhau, a'i muriau o'r tu fewn wedi eu lliwio o'r newydd.  Hefyd pleser yw gweled y swyddog newydd mor egniol gyda'r gwaith o lanhau yr Eglwys, a chadw pethau yn drefnus o'r tu fewn ac allan i'w muriau.

Medi 1906

Claddedigaethau -
Gorphenaf 28 Anne Morgans, Lewis Cottage, Llanon, yn 56 oed.
David Jenkins Henry, Egretia, Llanon yn 12 mis oed
Eto yr un dydd sef Awst 4 Sarah Anne Cruickshank, 15 Queen's Terrace, Aberystwyth yn 43 oed.
Awst 11 Mary Anne Jones, Aeron Villa, Llanon yn 54 oed.
 

Dyma restr o gyfeillion wedi cyrhaedd adre yn ystod y mis diweddaf -
Mrs A Morgans a Mrs Jones, dwy o ffyddloniaid yr Eglwys yn mynychu y gwasanaethau, yr Ysgol Sul, a'r cyfarfod gweddi, tra parodd eu hiechyd; cymmerwyd Anne Morgans (neu Anne Pugh fel yr oedd yn fwy adnabyddus) ymaith yn sydyn iawn, ond cafodd Mrs Jones hir gystudd, yr hwn a ddyoddefodd yn hynod o amyneddgar.  Gadawodd bedwar o feibion i alaru ar ei hol, yn amddifad heb fam na chwaer i ofalu am danynt; ond megys y cyfeiriodd ein Ficer yn ei bregeth angladdol, 'Mae Tad yr amddifaid yn ofalus ac yn dyner iawn.'
Eto Mrs Cruickshank, yr hona ddaeth yn ol i'w chladdu dan gysgod hen Eglwys y plwyf, lle cafodd ei bedyddio a lle y treuliodd y rhan gyhtaf o'i bywyd dilychwin, a lle ymunwyd hi mewn glân briodas â Mr Cruickshank.  Drwg neillduol genym dros Mrs Evans, Ceylon, Llanon, yr hon sydd yn awr yn amddifad heb ei phlant, ond gadawodd Mrs Cruickshank briod a chwech o blant i alaru ar ei hol.  Heddwch i'w llwch.
Eto y baban David Jenkins Henry, yr hwn a gymmerwyd yn nechreu ei ddyddiau, blodeuyn bach yn dechreu ymagor. 

Hefyd Jane Selina Jones, Bristol House, Llanon yn 2 flwydd a 4 mis oed. Traddodwyd pregeth angladdol dydd Sul, Awst 12. Cafodd eichladdu ym mynwent Llanddewi Aberarth

Rhwymau neillduol sydd arnom, yn enwedig ar rieni plant yn Llanon i diiolch i'r Arglwydd am ei diriondeb tuag atom yn ystod ei ymweliad neillduol a'r lle hwn , trwy gyfrwng afiechyd, sef y dwymyn goch. Wele yn y rhifyn hwn o'r Cyfaill ddau faban wedi eu cymmeryd, ac un yn y rhifyn diweddaf, ac yn awr gan nad oes neb yn dyoddef oddi wrthh yr anhwyldeb hwn, credwn fod llaw yr Arglwydd wedi ei thynnu yn ei hol, a mawr ddiolchwn i'r Arglwydd am ei drugaredd; ni chymmerodd ond tri baban bach diniwed i'w fynwes, lle gallasai ein hamddifadu o lawer iawn o'u hanwyliaid. 'Diolchwn iddo am adferu llef gorfoledd ac iechyd yn ein cyfanneddau.'

Tachwedd 1906

Claddedigaeth - Dydd Llun Medi 24 claddwyd ym mynwent Llansantffread Mrs Hannah Mary Henry, gwraig ieuanc dwy-ar hugain oed, a merch hynaf Mrs Jenkins, Engreteia, Llanon. Cafodd Mrs Henry ei dwyn i fyny yn yr Eglwys yma, lle bu yn aelod am flynyddoedd. Yna aeth i'r brifddinas, ac ymbriododd â Mr Henry, ond ni chafodd ond ychydig iawn o fywyd priodasol.  Dyoddefodd gystudd maith a blin iawn, ac yn ystod ei chystudd bu farw ei phlentyn bach, megys y crybwyllwyd eisoes yn y Cyfaill.  Gweinyddwyd ar achlysur ei chladdedigaeth gan y ficer, yr hwn a draddododd bregeth yn yr Eglwys, a chan ei hewythr, y Parch L Jenkins, ficer Llangollen.
Cyfarfodydd o Ddiolchgarwch am y Cynauaf - Cynnaliwyd y cyfarfodydd uchod yma dydd Gwener Medi 28, pryd y pregethwyd gan y Parchedigion A H Grey Edwards; D Davies, ficer Llandyssilio; a E Evans, ficer Henfynyw.  Er nad oedd y cynnulliadau ond cyffredin, eto gwelwyd arwyddion da o ddiolchgarwch, trwy fod y casglaiadau wedi cynnyddu.
Priodas - Dydd Mercher Hydref 17 ymunwyd mewn glân briodas Evan James Price, Morfa a Anne Florence Lewis, y Ficerdy.  Unwyd y pâr ieuanc gan y Parch  M Evans Davies, ficer Kilbebyll (brawd yng nghyfraith y priodfab), yn cael ei gynnorthwyo gan y Parchediglion T Evans, ficer Llanrhystud, ac E Evans deon gwladol.  Rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei thad, y Parch D Lewis, ac yn ei chanlyn fel morwynion priodas oedd Miss M Price, chwaer y priodfab, tair chwaer y briodferch, a'i dwy gyfneither; yn cynnorthwyo y mab ieuanc oedd ei frawd, Mr Emlyn Price.  Daeth y côr canu yng nghyd i roddi ei gwasanaeth ar yr achlysur, a chyfeiliwyd ar yr offeryn gan Miss Sinnett-Jones, Carlton.

Mehefin 1907

Y casgliad cenadol (CMS) -
 

Tanysgrifwyr:

£

s

d

Mrs Morgan, The Green 5 0 0
Miss Morgan, The Green 4 0 0
Mr E Morgan, The Green 1 1 0
Mr Rowland, Mount 1 1 0
Thankoffering 1 0 0
Capt & Mrs Jenkins, Morwylfa   10 0
Mrs Williams, Glyn   10 0
Mr Davies, Trialmawr   10 0
Rev D Lewis   10 0
Mr T Evans, Trial House   5 0
Rev D J Jones, Strata   2 6
Miss Lewis, The Vicarage   2 6
Miss A Rowland, Mount   2 6
Mrs Jenkins, Millet Park   2 6
Miss Morgan, Ael-y-bryn   2 6
Mrs Jenkins, Ael-y-bryn   2 6
Capt Richards, Pantteg   2 6
Mrs Jones, Roseland   2 6
Mrs Sinnett-Jones, Carlton   2 6
Mrs Jones, Cadifor   2 6
Mrs Jones, Taihirion   2 0
Mrs Clark, White Hall   2 0
Mr E Edwards, Troedrhiw   1 6
Capt Morgan, Cadwgan   1 0
Miss James, Manorafon   1 0
Mrs Jones, Sunny Mount   1 0
  16 0 6
Blychau:      
Mrs Evans, Convoy   2 6
Mrs Jones, Barbara   5 0
Mrs Jones, Gwynfa   2 6
  0 10 0
Casgliad yn yr Eglwys 5 13 1
Blychau yr Ysgol Sul 8 1 9
Cyfanswm 30 5 4


Claddedigaeth - Dydd Gwener Mai 17, Magdalen Mary Maria, anwyl ferch Mrs Evans, Commercial, Llanon, yn 22 oed.  Gofidus genym yw cofnodi marwolaeth sydyn y chwaer uchod ar ol cystudd byr ond caled.  Yn ystod ei hoes fer enillodd luaws o gyfeillion trwy ei dull serchog a'i hysbryd bywiog.  Carai fynychu tŷ Dduw a pharchai ei ordeiniadau.  Yr oedd yn aelod selog o'r Ysgol Sul ac o'r côr canu, ac edrychai ymlaen at y Festival, ond gwelodd yr Arglwydd yn dda ei symmud i uwch côr sydd oddeutu'r orseddfainc.  Gweinnyddwyd yn y claddedigaeth gan y Ficer a'r Parchedigi E Sinnett-Jones, Capel Curig; D J Jones, Strata; a D Sinnett-Davies Llanllwchaiarn.  Rhoddodd y côr canu ei wasanaeth ar yr achlysur a dangosodd ei chyfoedion eu hanwyldeb tuag at yr ymadawedig trwy orchuddio ei harch a lluaws o flodau, o'r rhai yr oedd hi yn hynod hoff.  Chwith iawn genym ar ol Maria, a chydymdeimlir yn fawr â'r teulu yn eu galar a'u hiraeth ar ei hol.

'O dewch ieuenctyd hoff yn awr
I arddel enw Iesu mawr,
Mae Duw yn galw ar eich ol
Fod tragwyddoldeb maith yn ol.'

Awst 1907

Cymdeithas yr Eglwys i Blant Amddifaid, Tlodion, Crwydredig, a Digartref - Bu cynnrychiolydd y gymdeithas uchod - y Parch D Maldwyn-Davies BA- ar ymweliad â'n Heglwys ar Sul y 16fed o Fehefin, a phregethodd foreu a hwyr ar ran y gymdeithas. Casglwyd £3 3s 0c yn ystod y dydd, a derbyniwyd 35 o enwau tanysgrifwyr blynyddol o swllt ac uchod.
Brydnawn Sul yr 16fed o Fehefin, cyflwynodd Mr David Davies eu certificates i'r plant hyny a fuont yn llwyddiannus yn arholiad y sol-ffa' sef -
Elementary- 1. Sarah Helena Evans, Swan; 2. Elizabeth Cruickshank, Ceylon; 3. Eleanor Eunice Jenkins, Millet Park; 4. David David Lewis Jones Thomas, Belmont; 5. David Lambert Jenkins, Millet Park
Junior - 1. Maggie Aeronwy Clarke, White Hall; 2. Mary Elizabeth Evans, Glanperis; 3. Margaret Mary Thomas, Ellen House; 4. Magdalen Urania Thomas, Belmont; 5. Mary Sarah Beryl Rowland, Pantanamlwg; 6. Eleanor Clarice Rowland, Pantanamlwg; 7. Maggie Olwen Evans, Swan; 8. Thomas Handel Jones, Gwalia;  9 John Evan Evans, Glanperis; 10. Henry Richard Jones, Gwalia

Bedydd - Ebrill 18 Evan Morris mab George Powell ac Elizabeth Hughes, Penybont Farm, Llanon

Priodas - Boreu Sul Gorphenaf 21 ar ol y Gwasanaeth Boreuol, David Evan Alfred Jones, Rose Mount (llong-lywydd) â Mary Catherine Gwendolen Davies, Rose Hill, Llanon.  Gwasanaethwyd gan y ficer; y priodfab yn cael ei gynnorthwyo gan ei frawd, Willie Ryle Morgan.  Rhoddwyd y briodas-ferch ymaith gan ei brawd Capt J Davies, ac yn llaw-forwynion iddi oedd y Misses Dorothy Davies (chwaer), Catherine J Evans( cyfnither) a Emily Morgan (nith).  Y gwahoddedigion priodasol oeddynt, Capt Richards, Pantteg, Mr Davies, Trial Mawr, Mr D Davies, Bridge Street, a brodyr y briodas-ferch.  Rhoddodd y côr canu eu gwasanaeth ac yr oedd yno gynnulleidfa hardd yn yr Eglwys.


 

 

 

Llanon Homepage     Copyright & Privacy     Last updated  25 March 2007      Webmaster